Hafan > Amdanom
Amdanom
Awyrgylch Cyfeillgar a Chlyd
Y mae Whitehall yn adeilad cofrestredig Gradd 2. Fe'i prynwyd gan Hefina a'r teulu nôl yn 2010. Mae'r teulu yn ffermio yn lleol ac yn falch iawn o dref Pwllheli ag ardal Llŷn.
Ceir yma awyrgylch hynod gyfeillgar gyda staff ymroddedig sy'n barod i'ch croesawu, yn ogystal â bwyd ffres bendigedig.
Ein Bwyty
Ar agor am 10 y bore ymlaen am baned neu goffi ffres. Gweinir bwyd am 12 o'r gloch hyd at 8 o'r gloch dydd Llun i ddydd Sadwrn. Ar ddydd Sul rhwng 12 a 3 o'r gloch gweinir cinio Sul yn unig; yna rhwng 5 ag 8 o'r gloch bydd y fwydlen nos ar gael.
Mae'r bwyty ar ddau lawr, gyda'r gofod fyny grisiau yn yn eistedd 45 ac yn le ardderchog am barti. Mae yn le poblogaidd dros gyfnod y Nadolig.
Ceir dewisiadau di-glwten, llysieuol a fegan, am mwy o fanylion holwch am y fwydlen pan yn archebu bwrdd.
Y Gegin
Mae'r holl gynhyrchion yn cael eu coginio yn ffres bob dydd ac yn sicr o blesio.
Amser Gweini Bwyd
Ar agor bob dydd am 10 y bore am baned neu goffi ffres.
Gweinir bwyd rhwng 12 ag 8 o'r gloch, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
Dydd Sul, cinio Sul yn unig rhwng 12 a 3 o'r gloch. Bwydlen arferol o 5 o'r gloch ymlaen.
Dim cŵn.




